HSC(4)-03-11 papur 4

Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Gofal Preswyl i Oedolion

 

Papur cwmpasu ar gyfer ymchwiliad i ofal preswyl i oedolion yng Nghymru

 

Dyddiad y cyfarfod:

22 Medi 2011

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 


Cynhyrchwyd y papur briffio hwn gan y Gwasanaeth Ymchwil i’w ddefnyddio gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Stephen Boyce yn y Gwasanaeth Ymchwil

Est. 8095

E-bost: Stephen.boyce@wales.gov.uk

Description: Description: Description: MRS2



 

1.         Cyflwyniad

Yn ei gyfarfod ar 13 Gorffennaf 2011, cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i ofal preswyl yng Nghymru,  a chytunodd hefyd y byddai ei aelodau’n ystyried papur cwmpasu yn ei gyfarfod ar 22 Medi 2011. Mae’r papur hwn yn gosod allan gwmpas posibl ymchwiliad o'r fath.

Cefndir

Mae’r gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi bod yn destun sylw ers tro, yn enwedig y problemau sydd ynghlwm wrth ariannu gwasanaethau i boblogaeth  sy’n heneiddio. Yn ogystal â hyn, mae’r digwyddiadau yn Southern Cross wedi hoelio sylw ar sefydlogrwydd a chynaliadwyedd y sector gofal preswyl.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bapur polisi[1] yn gosod allan ei chynlluniau ar gyfer gofal cymdeithasol am y deng mlynedd nesaf, sy’n cynnwys cyhoeddi Bil Gofal Cymdeithasol yn y Pedwerydd Cynulliad. 

Mae’r Dirprwy Weinidog dros Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol yn sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i archwilio materion yn ymwneud ag anghenion gofal a llety pobl hŷn. Cyhoeddir aelodaeth y Grŵp hwn yn ystod hydref 2011.

Mae’n bosibl y bydd y Pwyllgor am gytuno i gynnal ymchwiliad i gynaliadwyedd y sector gofal preswyl a’i allu i ddiwallu anghenion pobl hŷn yng Nghymru ar hyn o bryd, ac yn y dyfodol,  ac i ystyried dulliau eraill o ddarparu gofal.

Ymchwiliad i anghenion pobl hŷn yn unig fyddai hwn, ond gellid ei ehangu i gynnwys oedolion iau.

 

Gallai’r Ymchwiliad ymdrin â’r agweddau a ganlyn ar ofal preswyl. 

2.         Llwybrau gofal preswyl

Ers cryn amser, mae polisi gofal cymdeithasol wedi ceisio rhoi llai o bwyslais ar ofal sefydliadol a chynnig darpariaeth i helpu pobl i gadw’u hannibyniaeth ac i barhau i fod â rheolaeth dros eu bywydau’u hunain.  Dyma yw sylfaen y polisi presennol o hyd: mae papur polisi gwasanaethau cymdeithasol Llywodraeth Cymru[2] yn rhagweld y bydd gwasanaethau i bobl hŷn yn ‘trawsnewid’ wrth i ragor o gynlluniau ailalluogi a gwasanaethau cymorth arloesol gael eu darparu yn y gymuned.

Mae cost uchel gofal preswyl, ynghyd â’r problemau sy’n codi wrth i bobl ddatblygu meddylfryd sefydliadol, yn golygu bod nifer gynyddol o bobl ag anghenion sylweddol yn cael gwasanaethau gofal yn y cartref. Mae dulliau newydd o ddarparu gofal, fel Rhaglen Llesgedd Gwent, a datblygiadau ym myd technoleg, fel Teleofal, wedi ehangu’r posibiliadau ar gyfer gofal yn y gymuned. Er hyn, araf fu’r broses o symud y pwyslais oddi ar ofal sefydliadol i ofal yn y gymuned[3] ac mae’r cydbwysedd rhwng comisiynu gofal preswyl a gofal dibreswyl yn amrywio o’r naill awdurdod i’r llall[4]

Mae proses asesu awdurdodau lleol (a gaiff ei adolygu gan Lywodraeth Cymru cyn bo hir) ac, yn enwedig yn achos pobl sy’n talu ffioedd, y wybodaeth a’r cyngor sydd ar gael i ddefnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd, yn effeithio ar benderfyniadau ynghylch y math o ofal a gânt. 

Mae’n bosibl y bydd y Pwyllgor am ystyried y broses sy’n arwain pobl i dderbyn gofal preswyl, y gwasanaethau eraill sydd ar gael, a pha mor hawdd yw hi i bobl gael y gwasanaethau hynny.

 

3.         Adnoddau a chomisiynu

Y sectorau preifat a gwirfoddol[5] sy’n rhedeg y rhan fwyaf o gartrefi gofal i bobl hŷn yng Nghymru (87 y cant), er mai awdurdodau lleol yw prif brynwyr gwasanaethau gofal preswyl. Mae penderfyniadau cynllunio a chomisiynu awdurdodau lleol felly’n dylanwadu’n drwm ar farchnadoedd gofal lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno cytundeb amlinellol cenedlaethol ar gyfer gofal preswyl.   

Mae ambell anghydfod[6] rhwng darparwyr gofal ac awdurdodau lleol Cymru ynghylch cost gofal preswyl, wedi amlygu’r anawsterau sy’n wynebu comisiynwyr a darparwyr mewn cyfnod lle mae cyfyngiadau ar wariant cyhoeddus[7].  Mae memorandwm dealltwriaeth i annog darparwyr gofal cymdeithasol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gydweithredu mwy wedi bod dan gryn bwysau’n ddiweddar wedi i ddarparwyr gofal gymryd camau cyfreithiol yn erbyn awdurdodau lleol mewn ambell ardal yng Nghymru, ac mae tystiolaeth[8] yn dangos bod nifer o ddarparwyr gofal wedi mynd i ddwylo gweinyddwyr.

Gan fod nifer y bobl mewn cartrefi gofal yng Nghymru wedi gostwng ar gyfartaledd, mae’r pwysau ariannol ar ddarparwyr gofal wedi cynyddu[9], er bod y rhagolygon hirdymor yn awgrymu y bydd y galw’n cynyddu ac mae cryn alw o du cwsmeriaid preifat, sy’n prynu 40% o ofal preswyl.

Mae awdurdodau lleol yn rhoi cyngor a gwybodaeth i breswylwyr cartrefi gofal sy’n talu drostynt eu hunain. Gall rhai o’r rhain fod yn gymwys i dderbyn arian cyhoeddus yn ddiweddarach wrth i’w hadnoddau ariannol leihau.

Bu cryn dipyn o ymgynghori a thrafod yng nghyswllt talu am ofal cymdeithasol yng Nghymru ac yn y DU. Cyhoeddwyd adroddiad Dilnot[10] yn ddiweddar yn ymwneud ag ariannu gofal cymdeithasol yn Lloegr gan gyfrannu at y ddadl ar y trefniadau yn y dyfodol yn Lloegr a Chymru.

Mae’n bosibl y bydd y Pwyllgor am ystyried y modd y mae awdurdodau lleol yn comisiynu lleoedd mewn cartrefi gofal preswyl a gallu’r sector i fodloni’r galw o ystyried y cyfyngiadau ar adnoddau. 

Mae’n bosibl y bydd y Pwyllgor am ystyried y cymorth a gynigir gan awdurdodau lleol i’r rhai sy’n talu’n breifat am ofal preswyl.

 

4.         Gallu’r sector gofal preswyl

Gan fod gwasanaethau iechyd a gofal wedi’u lleoli mwy yn y gymuned yn ddiweddar, mae anghenion y rhai sy’n mynd i gartrefi gofal preswyl yn dueddol o fod yn fwy dwys nag y buont yn y gorffennol. Mae tystiolaeth gwaith ymchwil[11] yn dangos bod angen buddsoddi i roi rhagor o hyfforddiant i staff er mwyn ymdopi â’r anghenion hyn, a bod rhoi rhagor o hyfforddiant i staff yn gwella ansawdd bywyd y preswylwyr.    

Mae Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Gofal Cymru[12] wedi nodi bod rhai cartrefi gofal wedi derbyn pobl â dementia er nad oedd ganddynt y gallu na’r staff i ddiwallu eu hanghenion. Mewn crynodeb[13] o adroddiadau Blynyddol Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, nodwyd bod angen datblygu rhagor o wasanaethau i bobl â dementia, ac yn yr adroddiad, Preliminary Analysis of Dementia in Wales, nodwyd:

A significant finding of the preliminary analysis is that there are wide variations in what is available across Wales and that this variability doesn’t seem to be related to need. Crucial gaps have also been identified. This means that the needs of people with dementia and their families and carers are not being adequately or equitably met by social care and social services (p.3)[14].

Mae’n bosibl y bydd y Pwyllgor am ystyried gallu’r sector gofal preswyl i fodloni’r galw am wasanaethau i bobl sydd ag anghenion cynyddol, gan gynnwys pobl â dementia, o ran nifer y lleoedd sydd ar gael, y cyfleusterau a gwybodaeth a sgiliau staff.

 

5.         Safon gwasanaethau mewn cartrefi gofal preswyl 

Mae profiadau a sylwadau’r rhai sy’n derbyn gofal mewn cartref preswyl, a’u teuluoedd, yn rhoi syniad i ni o safon y gwasanaethau a ddarperir gan y sector hwn. Yn ôl astudiaethau ymchwil[15] mae gwahanol ffactorau’n effeithio ar lefel bodlonrwydd preswylwyr ac mae’r rhain yn cynnwys lefelau staffio, trosiant staffio, ymglymiad teuluoedd, prydau bwyd, rheolaeth bersonol, gweithgareddau hamdden ac amgylchedd y cartref. Mae’r ymchwil hefyd yn awgrymu bod cefnogaeth y teulu a chyfoedion yn effeithio ar ansawdd bywyd, yn ogystal â gallu’r preswylwyr i ddewis, a faint o rym sydd ganddynt. Mae trefniadau rheoleiddio ac arolygu, adnoddau a hyfforddiant hefyd yn effeithio ar safon y gwasanaeth.    

Mae gallu gwasanaethau i ddiwallu anghenion grwpiau penodol o bobl hŷn, fel siaradwyr Cymraeg a phobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig hefyd yn effeithio ar brofiadau’r rhai sy’n cael gofal mewn cartref preswyl.

O ystyried ansefydlogrwydd presennol y farchnad gofal preswyl, mae parhad gwasanaethau dan fygythiad pan fydd darparwyr yn trosglwyddo neu’n cau cartrefi gofal, gan beri gofid i ddefnyddwyr y gwasanaethau a’u teuluoedd. Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi mynegi pryder [16] am yr effaith a gaiff penderfyniad  i gau cartrefi gofal ar bobl hŷn. Mae’r Comisiynydd ar hyn o bryd yn ystyried defnyddio’i phwerau mewn perthynas â darparu eiriolaeth ddigonol i bobl hŷn sy’n cael gofal preswyl.         

Mewn adroddiadau a gyhoeddwyd yn ddiweddar, amlygwyd bod angen gwella gofal iechyd i bobl hŷn mewn cartrefi gofal preswyl[17], gan gynnwys y rhai y mae angen gofal lliniarol neu ofal iechyd meddwl arnynt[18]

Mae Llywodraeth Cymru yn diwygio’r trefniadau ar gyfer gwella gwasanaethau gofal cymdeithasol er mwyn cyflawni amcanion y Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol newydd. Caiff cynnydd ei fesur drwy ddefnyddio ‘cyfres ddiwygiedig o ddangosyddion lefel uchel’[19].  

Mae’n bosibl y bydd y Pwyllgor am ystyried safon gwasanaethau gofal preswyl a phrofiadau defnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd, gan gynnwys ystyried i ba raddau y mae gwasanaethau’n ymdopi ag anghenion amrywiol pobl hŷn.

Mae’n bosibl y bydd y Pwyllgor hefyd am ystyried y trefniadau ar gyfer sicrhau bod pobl hŷn yn parhau i gael gofal pan fydd cartref gofal yn cau. 

 

6.         Rheoleiddio ac arolygu

Diben y trefniadau ar gyfer rheoleiddio ac arolygu cartrefi gofal yw sicrhau cysondeb yn safon y ddarpariaeth drwy’r holl sector gofal preswyl, sy’n sector mawr ac amrywiol. Mae’r trefniadau presennol ar waith ers i Ddeddf Safonau Gofal 2000 ddod i rym, ac ers hynny, mae’r galw am wasanaethau wedi cynyddu ac mae modelau gofal newydd wedi ymddangos.  

Mae anawsterau ariannol Gofal Iechyd Southern Cross, a ddaeth i’r amlwg yn ddiweddar, wedi tynnu sylw at y darparwr mawr hwn (sydd â 34 o gartrefi gofal yng Nghymru) ac at y sector gofal preswyl yn gyffredinol.  Awgrymwyd bod angen monitro sefyllfa ariannol darparwyr gofal preifat mawr[20]

Mewn Datganiad Ysgrifenedig gan y Cabinet[21] ar 25 Gorffennaf 2011 dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas AC, wrth gyfeirio at broblemau Southern Cross:

Gofynnwyd i mi a wyf yn ystyried y mesurau angenrheidiol sydd angen eu cymryd er mwyn atal sefyllfaoedd tebyg rhag codi eto. Ystyrir opsiynau ar gyfer rheoleiddio ariannol neu fesurau eraill yn rhan o ddatblygiad y Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol arfaethedig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi amlinellu cynlluniau i ddiwygio trefniadau i reoleiddio ac arolygu gwasanaethau cymdeithasol. Mae ei phapur polisi ar wasanaethau cymdeithasol yn dangos bod y pwyslais yn symud o arolygu cartrefi gofal unigol i ofynion cofrestru’r cyrff sy’n darparu gwasanaethau; ‘trwydded i weithredu’ . Mae’n nodi:

Dyma'r amser i newid y pwyslais ym maes rheoleiddio ac arolygu o'r pwynt lle caiff gwasanaethau eu darparu i'r cyrff sy'n darparu'r gwasanaethau hynny ac i weithwyr proffesiynol penodol o fewn y gweithlu. Bydd hyn yn ein galluogi ni i leihau’r baich rheoleiddio ac i leihau faint o reoleiddio sy'n digwydd.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â chynlluniau i gofrestru staff gofal cymdeithasol ar wahân i weithwyr cymdeithasol a rheolwyr gofal.

Mae’n bosibl y bydd y Pwyllgor am ystyried pa mor effeithiol yw’r trefniadau ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gofal preswyl, gan gynnwys y posibilrwydd o graffu’n fanylach ar sefyllfa ariannol y cyrff sy’n darparu gwasanaethau.

 

7.         Cydgysylltu ac integreiddio gwasanaethau gofal preswyl a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eraill.

Dim ond un elfen o’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol rhyngddibynnol yw gofal preswyl; felly nid yw’n gweithredu’n annibynnol arnynt. Mae gwasanaethau fel rhaglenni ail-alluogi sy’n ceisio cynnal annibyniaeth pobl hŷn, yn rhyngweithio’n agos â gwasanaethau gofal preswyl, ac yn effeithio ar y galw am y gwasanaethau hynny. Gall cydweithredu effeithiol rhwng y gwasanaethau ddylanwadu ar brofiadau defnyddwyr gwasanaethau ac ar effeithiolrwydd y gwasanaethau rhyngddibynnol. Er enghraifft, gall gofal cymdeithasol gwael arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy’n cael eu trosglwyddo o ofal lleoliadau gofal iechyd aciwt. 

Un o amcanion polisi hirsefydlog Llywodraeth Cymru yw integreiddio gwasanaethau fwyfwy, yn enwedig gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol; mae ei phapur polisi ar ofal cymdeithasol a gyhoeddodd yn ddiwedd, yn atgyfnerthu’r amcan hwn[22].

Mae’n bosibl y bydd y Pwyllgor am ystyried trefniadau i gydgysylltu a/neu integreiddio gofal preswyl â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol eraill.

 

8.         Darpariaeth yn y dyfodol

Mae’r pwyslais parhaus ar ddatblygu modelau gwasanaeth sy’n hyrwyddo annibyniaeth, rhagor o newidiadau ym mhroffil demograffig poblogaeth hŷn Cymru, a disgwyliadau uwch o ran safon gwasanaethau, yn debygol o olygu bod angen dulliau newydd o ddarparu gofal i’r bobl sydd â’r anghenion mwyaf.  

Mae’n bosibl y bydd angen modelau gofal yn y dyfodol sy’n ddigon hyblyg i ymdopi ag anghenion pobl hŷn, wrth i’r anghenion hynny newid, heb orfod eu symud o’r naill le i’r llall. Mae cartrefi Gofal ychwanegol, er enghraifft,  yn cynnig gofal sy’n caniatáu i breswylwyr fyw’n annibynnol, ac mae darpariaeth debyg ar gael hefyd mewn pentrefi ymddeol ar raddfa ehangach.

Mae’n bosibl y bydd y Pwyllgor am ystyried y modelau newydd o ofal sy’n datblygu, fel Gofal ychwanegol, pentrefi gofal a modelau eraill sy’n hyrwyddo annibyniaeth ac sy’n cynnig gofal hyblyg.  

Bu newid sylweddol ym maes gofal preswyl ers 1980 wrth i gartrefi gofal gael eu trosglwyddo o ddwylo adurdodau lleol i’r sector preifat ac erbyn hyn mae 84 y cant o gartrefi gofal dan reolaeth perchnogion preifat.

Fodd bynnag, o gofio problemau ariannol Gofal Iechyd Southern Cross yn ddiweddar, mae’n bosibl y bydd angen ystyried modelau ariannu a pherchnogaeth gwahanol. Gall cyrff dielw fel Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, er enghraifft, helpu i greu amrywiaeth gynyddol yn economi’r sector gofal drwy ymwneud mwy â’r ddarpariaeth.  Mewn rhai gwledydd, fel Canada, mae’r sector cydweithredol yn rhan bwysig o’r gwasanaethau tai a gofal.  

Yn ei phapur polisi ar wasanaethau cymdeithasol[23] mae Llywodraeth Cymru yn nodi:  “Mae gofal cymdeithasol yn faes parod ar gyfer datblygu mentrau cymdeithasol”.  Ymrwymodd Llywodraeth flaenorol Cymru (2007-11) i ddatblygu cartrefi nyrsio di-elw[24]

Mae’n bosibl y bydd y Pwyllgor am ystyried y cyfleoedd sydd ar gael i ddatblygu modelau ariannu a pherchnogaeth eraill fel y rhai a gynigir gan y sector cydweithredol a chydfuddiannol.

 

 

 

 



[1] Llywodraeth Cymru Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy: Fframwaith Gweithredu  (2011) [fel ar 5 Medi 2011]

[2] Ibid

[3] Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru  Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygwr 2009-10 t17 [fel ar 7 Medi 2011]

 

[4] Gweler Ystadegol SDR Llywodraeth Cymru 155/2011 Asesiadau a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer Oedolion 2010-11 Medi 2011, Tabl A1 [fel ar 7 Medi 2011]

[5] Llywodraeth Cymru Gofal Preswyl: papur briffio ar gyfer cyfarfod iechyd a gofal cymdeithasol 28 Gorffennaf 2011 paragraff 4 [fel ar 2 Medi 2011.

[6] Community Care Welsh Government bids to cool social care fee row 22 Mehefin 2011 [fel ar 5 Medi 2011] (Saesneg yn unig)

[7] Gweler Guardian.co.uk Firms going bust in social care sector up by 50% amid spending cuts 4 Gorffennaf 2011 [fel ar 10 Gorffennaf 2011] (Saesneg yn unig)

[8] Community Care More care homes on the brink of closure as fees fall 14 Gorffennaf 2011 [fel ar 2 Medi 2011] (Saesneg yn unig)

[9] Gweler Llywodreth Cymru Gofal Preswyl: papur briffio ar gyfer cyfarfod iechyd a gofal cymdeithasol 28 Gorffennaf 2011 paragraff 5 [fel ar 2 Medi 2011.

[10] Y Comisiwn ar Ariannu Gofal a Chymorth Fairer Care Funding. The Report of the Commission on Funding of Care and Support  Gorffennaf 2011 [fel ar 5 Gorffennaf 2011]

[11]Sefydliad  Joseph Rowntree Residential care home workforce development: the rhetoric and reality of meeting older residents’ future care needs (2010) [fel ar 2 Medi 2011] (Saeseng yn unig)

[12] Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru Adroddiad Blynyddol y Prif Arolygwr 2009-10 t17 [fel ar 5 Medi 2011]

[13] Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol Adroddiadau Blynyddol gan 22 Gyfarwyddwyr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru – Dadansoddiad o Lwyddiant a Heriau  (2011) t10 [fel ar 5 Medi 2011]

[14] Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru Dadansoddiad Rhagarweiniol o Ddementia yng Nghymru Gorffennaf 2010 [fel ar 5 Medi 2011]

[15] Sefydliad Joseph Rowntree Improving care in residential care homes: a literature review (2008) [fel ar 2 Medi 2011] (Saesneg yn unig)

[16] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Datganiad ar Gau Cartrefi Gofal 1 Rhagfyr 2010 [fel ar 10 Gorffennaf 2011]

[17] British Geriatrics Society Quest for Quality. British Geriatrics Society Joint Working Party Inquiry into the Quality of Healthcare Support for Older People in Care Homes: A Call for Leadership, Partnership and Quality Improvement (Mehefin 2011) [fel ar 2 Medi 2011] (Saesneg yn unig)

[18] Sefydliad Joseph Rowntree Improving care in residential care homes: a literature review (2008) t3 [fel ar 2 Medi 2011] (Saesneg yn unig)

[19] Llywodraeth Cymru Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu (2011) paragraff 3.14 [fel ar 5 Medi 2011]

[20] Community Care Southern Cross crisis prompts call for regulator 2 Mehefin 2011 [fel ar 10 Gorffennaf 2011]. (Saesneg yn unig)

[21] Llywodraeth Cymru, Gwenda Thomas AC, Y Dirprwy Weinidog dros Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol Southern Cross – Diweddariad ar Ailstrwythuro Datganiad Ysgrifenedig y Cabinet, 25 Gorffennaf 2011 [fel ar 1 Medi 2011]

[22] Llywodraeth Cymru Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu (2011) paragraff 3.21 [fel ar 5 Medi 2011]

[23]Llywodraeth Cymru Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru:Fframwaith Gweithredu (2011) paragraff 3.18 [fel ar 5 Medi 2011]

[24] Llywodraeth Cymru Cymru’n Un, Rhaglen Flaengar ar gyfer Llywodraethu Cymru  (2007) t12 [fel ar 7 Medi 2011